Hafan > Gwasanaethau > Tystysgrifau > TPY Masnachol
TPY Masnachol
Tystysgrifau Perfformiad Ynni Annomestig / Masnachol (EPCs)
Asesiadau trylwyr, cywir bob tro
Mae cael Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ddilys bellach yn ofyniad cyfreithiol wrth werthu neu osod y mwyafrif o adeiladau annomestig neu fasnachol. Ymhellach, mae'r Safonau Isafswm Effeithlonrwydd Ynni (MEES) yn ei gwneud yn ofynnol, at ddibenion rhentu, bod yn rhaid i'r Dystysgrif Perfformiad Ynni gyflawni isafswm o sgôr E (oni bai bod eithriad dilys yn ei le).
Beth mae cynhyrchu EPC Masnachol yn ei olygu?
Dim ond Aseswyr Ynni Annomestig achrededig fel ni all gynhyrchu Tystysgrifau Perfformiad Ynni. Fel rhan o'n hasesiad, byddwn yn casglu data hanfodol am eich eiddo, gan gynnwys dimensiynau ystafell, goleuadau, cyfeiriadedd adeiladau, lefelau inswleiddio, a systemau gwresogi.
Bydd angen mynediad llawn i bob rhan o'r adeilad i gymryd mesuriadau a ffotograffau fel rhan o'n gwerthusiad. Gall perchnogion a landlordiaid fod yn dawel eu meddwl nad yw'r broses asesu yn ymledol, ac nad yw'n cynnwys unrhyw ddrilio na difrod i waliau. Mae'r amser sydd ei angen ar gyfer yr asesiad yn dibynnu ar faint a chymhlethdod yr adeilad ond fel arfer mae'n cymryd rhwng 1-3 awr ar y safle.
Unwaith y bydd data safle wedi'i gasglu, mae'r Dystysgrif Perfformiad Ynni yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio meddalwedd a Gymeradwywyd gan y Llywodraeth ac rydym yn cyflwyno'r dystysgrif hon yn uniongyrchol i Gronfa Ddata'r Llywodraeth i chi.
Mae fy EPC o dan E, a allaf ei osod o hyd?
Yr ateb byr yw ei fod yn dibynnu! Fel arfer, gellir gwneud gwelliannau i ddod â'ch eiddo i sgôr E a gallwn helpu i fodelu'r gwelliannau hyn i chi er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd eich graddfeydd targed.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd eithriad yn bosibl ar gyfer eiddo a senarios penodol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr eithriadau hyn ar wefan Gov.uk.
Pa Adeiladau sydd wedi'u heithrio?
Nid oes angen Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) arnoch os gallwch ddangos bod yr adeilad yn unrhyw un o’r canlynol:
- wedi'i restru neu wedi'i diogelu'n swyddogol a byddai'r gofynion perfformiad ynni lleiaf yn ei newid yn annerbyniol
- adeilad dros dro yn mynd i gael ei ddefnyddio am 2 flynedd neu lai yn unig
- yn cael ei ddefnyddio fel man addoli neu ar gyfer gweithgareddau crefyddol eraill
- safle diwydiannol, gweithdy neu adeilad amaethyddol dibreswyl nad yw'n defnyddio llawer o ynni
- adeilad ar wahân gyda chyfanswm arwynebedd llawr yn llai na 50 metr sgwâr
- ar fin cael ei ddymchwel gan y gwerthwr neu'r landlord a bod ganddynt yr holl ganiatadau cynllunio a chadwraeth perthnasol
Pam mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni'n Bwysig?
Nid yn unig y mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn ofyniad cyfreithiol yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, ond gall sgôr EPC da hefyd ychwanegu gwerth at eich eiddo a helpu i sicrhau marchnadwyedd eich ased yn enwedig gyda chostau ynni uchel presenol.
Faint mae EPCs Masnachol yn ei gostio?
Rydym yn darparu tryloywder llawn i'n cleientiaid ar gost ein hasesiad cyn i ni fynychu'r safle. Mae ein ffioedd yn seiliedig ar arwynebedd llawr a'r math o ddefnydd a wneir o'r eiddo. Unwaith y byddwn wedi derbyn y wybodaeth hon byddwn yn anfon dyfynbris dim rhwymedigaeth atoch i chi ei ystyried.
Ein Harbenigedd
Mae’r uchod i gyd yn cadarnhau pam ei bod yn bwysig cael asesiadau cywir gan all Tystysgrifau Perfformiad Ynni fod y gwahaniaeth rhwng gallu gosod eiddo neu gael mynediad at filoedd o bunnoedd mewn cyllid grant.
Gallwch ymddiried yn ein tîm o Aseswyr Ynni Annomestig hyfforddedig ac achrededig i gynnal asesiad trylwyr a manwl bob tro. Gwnawn hyn drwy gynnig y canlynol fel safon:
- Cywirdeb: Mae ein hasesiadau yn seiliedig ar gasglu data trylwyr, gan leihau rhagdybiaethau i gynhyrchu adroddiadau manwl gywir.
- Ymgynghori Rhad ac Am Ddim: Rydym yn darparu cyngor am ddim i berchnogion eiddo a landlordiaid i'w helpu i gyrraedd y graddfeydd gofynnol.
- Cynllunio Gwelliant: Rydym yn cynorthwyo i gynllunio gwelliannau angenrheidiol i wella graddfeydd EPC, gan sicrhau bod eich buddsoddiadau yn rhoi gwerth am arian.
Paratoi ar gyfer eich Asesiad TPY (Saesneg yn unig)


