Hafan > Gwasanaethau > Ymgynghori a Gwasanaethau Ôl-ffitio > Asesiad Effeithlonrwydd Ynni Cartref
Asesiad Effeithlonrwydd Ynni Cartref
Asesiad manwl o'ch cartref
Er bod tystysgrif Perfformiad Ynni yn ddefnyddiol fel offeryn cymharu ac yn darparu argymhellion cyffredinol ar gyfer gwella cartrefi, gall fod yn brin o fanylion ac nid yw wedi'i theilwra i'r ffordd y caiff yr eiddo ei ddefnyddio mewn gwirionedd gan ddeiliaid.
O ganlyniad, gall olygu bod perchnogion tai neu ddatblygwyr eiddo yn brin o wybodaeth i'w helpu i wneud y penderfyniadau gorau ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
Dyna pam yn Egni Energy Solutions rydym wedi datblygu gwasanaeth asesu ac adrodd newydd - Asesiad Effeithlonrwydd Ynni Cartref.
Mae'r arolwg hwn yn mynd yn ddyfnach ac ymhellach nag TPY ac mae wedi'i deilwra i'ch defnydd a deiliadaeth o'ch eiddo.
Rydym yn deall bod anghenion pob cleient yn wahanol a dyna pam rydym wedi datblygu 3 'Lefel' o asesu, pob un â phrisiau clir, i wneud yn siŵr bod gennym ni asesiad sy'n gweithio i chi:
Asesiad Lefel 1 - £160+TAW
Yma, byddem yn cynnal asesiad TPY Sylfaenol fel y mae'r eiddo ar hyn o bryd ac yn darparu senarios syml ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei gynllunio fel y gallwch weld yr effaith ar y sgôr TPY. Gallem hefyd gynghori ar y llwybr symlaf i gyflawni sgôr benodol os yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn ei dargedu. Bydd ein canfyddiadau yn cael eu cyflwyno mewn e-bost.
Asesiad Lefel 2 - £350+TAW
Mae hyn yn adeiladu ar yr uchod trwy roi ein barn ar yr hyn sydd fwyaf addas ar gyfer yr eiddo a darparu gwahanol senarios i chi eu hystyried. Ar gyfer hyn byddem yn dilyn y fethodoleg ffabrig yn gyntaf lle byddai mesurau insiwleiddio yn dod gyntaf, ac yna gwelliannau HVAC ac yn olaf ynni adnewyddadwy. Byddai ein canfyddiadau yn cael eu cyflwyno ar ffurf adroddiad byr.
Asesiad Lefel 3 - £750+TAW
Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar lefel 2 trwy ddarparu mesuriadau effaith ychwanegol ar eich adeilad gan edrych yn arbennig ar allyriadau carbon a'r effaith debygol y bydd y gwelliannau yn ei chael ar gost gwresogi'r ty. Byddai hyn yn cael ei gyflwyno gan fesurau gwella a hefyd gan becynnau o fesurau gyda'i gilydd. Mae hyn yn fwy manwl a gall fod o gymorth wrth wneud penderfyniadau os nad ydych yn siŵr pa ffordd i fynd i lawr ond bod gennych nod mewn golwg e.e. carbon isel, rhad i'w wresogi, graddfeydd ynni uchel ac ati - gallwn deilwra i'ch nod. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno ar ffurf adroddiad.
Ein Hadroddiadau
Mae ein holl adroddiadau wedi'u ddylunio yn glir ac yn rhydd o jargon gan roi cyngor ac arweiniad syml ar yr hyn sydd fwyaf addas ar gyfer eich eiddo i gyflawni eich nodau.
I drafod ymhellach, neu i ofyn am adroddiad pwrpasol wedi'i deilwra i'ch nodau, cysylltwch â ni heddiw!
Manteision Adroddiad Effeithlonrwydd Ynni Cartref
Pam ddylech chi gomisiynu adroddiad I’ch cartef?
- Mynnwch fwy o fanylion nag TPY safonol
- Helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am welliannau i'ch eiddo
- Sicrhau gwerth am arian trwy ariannu gwelliannau sy'n cael yr effaith fwyaf tuag at eich nod
- Cyfrifo enillion ar fuddsoddiad a chyfnodau ad-dalu
- Helpwch i wneud eich rhan tuag at gyflawni Net Sero
Cymerwch eich cam cyntaf tuag at wella effeithlonrwydd ynni eich cartref heddiw!