Hafan > Gwasanaethau > Ymgynghori a Gwasanaethau Ôl-ffitio > Adroddiadau Datgarboneiddio

Adroddiadau Datgarboneiddio


Helpu Eiddo Masnachol i Leihau Allyriadau Carbon a Gwella Effeithlonrwydd Ynni

Mae datgarboneiddio yn gam hollbwysig i fusnesau sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau costau gweithredu, a chyfrannu at nodau cynaliadwyedd. Mae ein hadroddiadau datgarboneiddio yn darparu dull strwythuredig o leihau allyriadau carbon mewn eiddo masnachol ac annomestig. Gan ddefnyddio meddalwedd a gydnabyddir gan y llywodraeth, rydym yn asesu eich adeilad ac yn cynnig tri cham o welliannau i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon.

Beth yw Adroddiadau Datgarboneiddio?

Mae adroddiad datgarboneiddio yn asesiad manwl o berfformiad ynni presennol adeilad. Mae ein hadroddiadau yn amlinellu mesurau ymarferol a chyraeddadwy i wella effeithlonrwydd ynni. Mae'r dull strwythuredig hwn yn sicrhau y gall perchnogion eiddo wneud penderfyniadau gwybodus am uwchraddio ynni.

Ein Dull Tri Cham o Ddatgarboneiddio:

Rydym yn darparu strategaeth haenog i weddu i wahanol gyllidebau, amserlenni ac uchelgeisiau cynaliadwyedd:

1. Gwella Lefel Arwyneb

  • Uwchraddiadau cyflym, effaith uchel sy'n cynnig buddion ar unwaith.
  • Datrysiadau â cost isel sy'n hawdd eu gweithredu.
  • Mae enghreifftiau'n cynnwys goleuadau LED, rheolyddion ‘smart’, insiwleiddio gwell, ac optimeiddio systemau presenol.

2. Ôl-osod Safonol

  • Agwedd gytbwys sy’n blaenoriaethu effeithlonrwydd ynni gan ddilyn yr egwyddor ‘ffabrig yn gyntaf’.
  • Yn cynnwys gwelliannau amlen adeiladu, gwelliannau system HVAC, ac integreiddio ffynonellau ynni adnewyddadwy.
  • Wedi'i gynllunio i wneud y mwyaf o arbedion ynni tra'n parhau'n gost-effeithiol.

3. Ôl-ffitio Dwfn

  • Strategaeth gynhwysfawr sy'n addas ar gyfer y dyfodol ar gyfer lleihau allyriadau carbon i'r eithaf.
  • Yn cynnwys technolegau modern ac addasiadau adeiladau ar raddfa lawn i gyflawni'r lefelau effeithlonrwydd ynni uchaf.
  • Yn addas ar gyfer prosiectau lle mae cyllid ar gael, neu gynaliadwyedd hirdymor yw'r flaenoriaeth.

Asesiad Mesuradwy

Yn ogystal â'r strategaeth tri cham, rydym yn darparu dadansoddiad o bob mesur a'i effaith ar allyriadau carbon, y galw am ynni, costau arbed ynni, a graddfeydd EPC. Mae hyn yn galluogi cleientiaid i ddeall manteision pob uwchraddiad yn unigol yn ogystal ag ar y cyd o fewn y dull fesul cam.

Adroddiadau Teilwredig ar gyfer Eich Anghenion

Rydym yn addasu ein hadroddiadau i gwrdd â'ch nodau penodol, p'un a ydych yn datblygu strategaeth net sero, yn gwneud cais am arian grant, neu'n ceisio gwneud newidiadau sy'n cael effaith i leihau allyriadau. Mae ein hasesiadau wedi cefnogi cleientiaid i sicrhau cyllid, gosod nodau cynaliadwyedd, a sbarduno gweithredu ystyrlon ar newid yn yr hinsawdd.

Cysylltwch

Yn barod i gymryd y cam nesaf tuag at ddatgarboneiddio? Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut y gall ein hadroddiadau wedi'u teilwra helpu eich eiddo masnachol i sicrhau mwy o effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.