Hafan > Gwasanaethau > Tystysgrifau > TPY Domestig
TPY Domestig
Tystysgrifau Perfformiad Ynni Domestig a Masnachol (EPCs)
Asesiadau trylwyr, cywir bob tro
Mae cael Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) dilys bellach yn ofyniad cyfreithiol wrth werthu neu osod eiddo domestig a'r rhan fwyaf o eiddo masnachol neu annomestig.
Pam mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni'n Bwysig
Mae EPCs yn dod yn fwy a fwy pwysig. Mae cost ynni yn gwneud i ddarpar berchnogion tai a thenantiaid gymryd sylw o effeithlonrwydd ynni tai ac adeiladau ac felly gall sicrhau'r sgôr ynni gorau posibl helpu i sicrhau y caiff eich eiddo ei werthu neu ei osod.
Mae angen Tystysgrifau Perfformiad Ynni hefyd am resymau amrywiol eraill megis morgeisi gwyrdd, cael mynediad at grantiau effeithlonrwydd ynni fel y Cynllun Uwchraddio Boeleri (BUS) a cadarnhau cymhwysedd ar gyfer rhaglenni fel y Cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO).
Ein Harbenigedd
Mae’r uchod i gyd yn cadarnhau sut all cael asesiadau cywir Tystysgrifau Perfformiad Ynni fod y gwahaniaeth rhwng gallu gosod cartref neu gael mynediad at filoedd o bunnoedd mewn cyllid neu grant.
Gallwch ymddiried yn ein tîm o Aseswyr Ynni Domestig ac Annomestig sydd wedi'u hyfforddi'n llawn ac wedi'u hachredu i gynnal asesiad trylwyr a manwl bob tro. Gwnawn hyn drwy gynnig y canlynol fel safon:
- Cywirdeb: Mae ein hasesiadau yn seiliedig ar gasglu data trylwyr, gan leihau rhagdybiaethau i gynhyrchu adroddiadau manwl gywir.
- Ymgynghori Rhad Ac Am Ddim: Rydym yn darparu cyngor am ddim i berchnogion eiddo a landlordiaid i'w helpu i gyrraedd y graddfeydd gofynnol.
- Cynllunio Gwelliant: Rydym yn cynorthwyo gyda chynllunio gwelliannau angenrheidiol i uchafu graddfeydd TPY, gan sicrhau bod eich buddsoddiadau yn rhoi gwerth am arian.
Paratoi ar gyfer eich Asesiad TPY
Rydym wedi datblygu canllaw defnyddiol i helpu i sicrhau eich bod yn cynyddu eich sgôr TPY cyn ein hasesiad. Gall gwelliannau syml a sicrhau bod tystiolaeth o unrhyw waith gwella sydd wedi'i gwblhau wneud gwahaniaeth mawr i sgôr derfynol eich eiddo felly cliciwch ar y ddolen isod a gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i wneud y gorau o'ch asesiad gyda ni!
Paratoi ar gyfer eich Asesiad TPY (Saesneg yn unig)
TPY gennym ni...
- Pam ddylech chi gael Tystysgrif Perfformiad Ynni gyda ni?
- Gwasanaeth lleol cyfeillgar, wedi'i yswirio'n llawn
- Arweiniad am ddim ar eich rhwymedigaethau fel perchennog neu landlord
- Aseswyr Ynni ardystiedig llawn gyda Stroma Certification Ltd
- Ffioedd cystadleuol yn dechrau o ond £80
- Gostyngiadau ar gyfer nifer uchel o dystysgrifau
- Cefnogaeth gyda chynllunio gwelliannau gyda'n partneriaid dibynadwy
- Ymgynghoriadau diderfyn i drafod canfyddiadau adroddiadau


