Hafan > Gwasanaethau > Tystysgrifau > TPY Adeiladau Newydd
TPY Adeiladau Newydd
TPY ar Dai Newydd
Asesiadau trylwyr, cywir bob tro
Mae'n ofynol fod pob ty newydd gyda TPY dilys a chaiff ei gynhyrchu trwy ymgymryd Asesiad SAP ar yr eiddo. Mae angen Asesiad SAP gan y Rheoliadau Adeiladu i ddangos bod eich tai newydd neu estyniad yn cydymffurfio â Rhan L o'r Rheoliadau Adeiladu.
Yn syml, mae Asesiad SAP yn cadarnhau a oes gan yr adeilad newydd ddigon o inswleiddio ac nad yw'n allyrru gormod o garbon fel y diffinnir gan y Rheoliadau.
Yn dibynnu ar y math o ddatblygiad mae’r ffordd rydym yn asesu yn galu bod yn wahanol:
Tai Newydd
Ar gyfer tai sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd ar lain newydd, mae’r Asesiad SAP yn asesu’r adeilad yn erbyn ty ‘Damcaniaethol’ yn seiliedig ar yr un maint, siâp a chyfeiriadedd â’r adeilad newydd.
Addasiadau
Os yw eich ty newydd yn cael ei chategoreiddio fel addasiad e.e. o adeiladau allanol amaethyddol neu newid defnydd o adeilad masnachol, dim ond i bennu bod yr elfennau ffabrig presennol a newydd (waliau, lloriau a thoeau) yn cydymffurfio â’r Gwerthoedd U gofynnol yn Rhan L y defnyddir yr Asesiad SAP.
Estyniadau
Mae angen cyfrifiadau SAP ar gyfer estyniadau os yw arwynebedd y gwydr newydd arfaethedig yn fwy na 25% o gyfanswm arwynebedd yr estyniad. Mae Rheoliadau Adeiladu yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asesiad SAP hwn sicrhau na fydd cyfraddau allyriadau o'r ty yn waeth ar ôl ychwanegu'r estyniad. Mae hyn oherwydd bod gan wydr berfformiad thermol is na waliau a thoeau wedi'u hinswleiddio.
Yma yn Egni Energy Solutions, gallwn asesu pob un o'r prosiectau uchod a helpu i'ch arwain tuag at gydymffurfio.
Mae ein tîm o Aseswyr Ynni Domestig Ar-Adeiladu cwbl achrededig yn ymfalchïo mewn torri trwy'r jargon, gan sicrhau adroddiadau cywir a darparu cyngor clir a chryno ar sicrhau bod eich prosiect yn cydymffurfio. Rydym yn hapus i gael gwared ar y straen trwy gysylltu'n uniongyrchol â'ch pensaer neu adeiladwr a chynnig ymweliad safle AM DDIM i drafod eich prosiect os dymunwch.
Cysylltwch â ni heddiw - byddem wrth ein bodd yn cefnogi eich prosiect!
Asesiad SAP gennym ni...
Pam ddylech chi gael eich asesiad SAP wedi'i wneud gyda ni?
- Gwasanaeth lleol cyfeillgar, wedi'i yswirio'n llawn
- Ardystiad llawn Aseswyr Ynni Domestig Ar- Adeiladu gyda Stroma Certification Ltd
- Ffioedd cystadleuol yn dechrau o £150 yn unig
- Gostyngiadau ar gyfer tystysgrifau lluosog
- Ymweliad safle am ddim i'ch helpu i gydymffurfio
- Ymgynghoriadau diderfyn i drafod canfyddiadau adroddiadau
Tynnwch y straen oddi wrth gydymffurfio heddiw a chysylltwch â ni